Digwyddiadau Corfforaethol
“Diolch yn fawr iawn i chi am wneud gwaith mor rhagorol wrth drefnu’r Gwobrau Rubies. Roedd y noson yn slic, yn sgleinio ac yn llyfn - yn glod mawr i BBC Cymru a’r Cenhedloedd a’r Rhanbarthau. Rwyf yn gwybod pa mor galed y bu’n rhaid i chi weithio a pha mor gymhleth oedd y digwyddiad i’w drefnu. Dywedodd nifer o bobol wrthyf gymaint iddyn nhw fwynhau’r noson - ac roedd y syniad o gynnig taith o gwmpas y stadiwm yn un ysbrydoledig.”
– Menna Richards, Rheolwr BBC Cymru
Bydd Shine – Digwyddiadau Creadigol yn cymryd yr awenau mewn unrhyw ddigwyddiad corfforaethol o’r dechrau i’r diwedd gan gymryd y pwysau i gyd oddi ar eich mudiad chi er mwyn sicrhau y bydd pawb yn bresennol yn cael y mwyaf o’r profiad.
Gan ddefnyddio creadigrwydd, rydym yn cynnig dimensiwn arall i ddigwyddiadau gan sicrhau nid yn unig ceir diwrnod pwrpasol ond un i’w gofio hefyd.
Felly pa bynnag achlysur sydd gennych chi dan sylw, gadwch Shine eich ysbrydoli. Mae'r gallu gennym i wneud hynny a gallwn gynnig digwyddiadau cost effeithlon.


