Shine Digwyddiadau Creadigol
Mae Shine Digwyddiadau Creadigol yn bartneriaeth ddiguro sy’n cynnig gwasanaeth dwyieithog i gleientiaid corfforaethol a phreifat trwy Gymru a'r Gorllewin. Mae Shine yn canolbwyntio ar y gallu i gynhyrchu digwyddiadau sy’n rhedeg yn llyfn ac sydd, ynghyd â dawn greadigol, yn sicrhau achlysur y bydd pawb yn siarad amdani.
Ymhlith y digwyddiadau a drefnwyd eisoes mae Gwobrau Newyddion Teledu'r BBC, Proms yr Haf, Digwyddiadau Arweinyddiaeth a Gweithdai Creadigrwydd, ac wrth gwrs priodasau.
Cred Shine – Digwyddiadau Creadigol yn gryf bod angen yr un sgiliau - trefniadaeth, meddwl a chynllunio i wneud unrhyw ddigwyddiad yn llwyddiant. Mae’r hyblygrwydd i addasu i unrhyw un o ofynion y cleient yn sicrhau bod Shine yn apelio at y cleient corfforaethol a phreifat ill dau.
Ein Athroniaeth yw – Deall gofynion ein cwsmeriaid a mynd un cam ymhellach.
Drwy wrando ar eich anghenion, ein nod yw creu digwyddiad cofiadwy.
