Trefnu Priodasau
a Chleientiaid Preifat
“Dim ond canmoliaeth sydd gen i i Rhian a Wendy. O'r cychwyn cynta, roeddent yn cynnig syniadau gwreiddiol ar gyfer ein brecwast priodas, ac yn trefnu'r cyfan yn ddi-ffwdan. Roedd eu hagwedd gyfeillgar a phroffesiynnol yn caniatau i ni ymlacio dydd y briodas ei hun, heb amharu dim ar weithgareddau'r diwrnod. Maent yn haeddu pob llwyddiant yn y dyfodol” – Sara Gibson, Cyflwynydd Teledu, BBC Cymru
Mae Shine Digwyddiadau Creadigol yn arbenigo mewn priodasau llawn steil sy’n unigryw ac eithriadol ac yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau trefnu priodas sy’n sicrhau bod diwrnod arbennig y priodfab a’r briodferch yn ddiwrnod arbennig.
Wrth ystyried y galwadau cyson sy’n rhan o jyglo bywydau cynyddol brysur yn aml mae’n anodd i chi roi’r sylw haeddiannol i’ch diwrnod arbennig, gan ei fod ar gyfartaledd yn cymryd 250 o oriau i drefnu priodas. Mae Shine wedi rhoi rhwydwaith o gyflenwyr cymwys, dibynadwy at ei gilydd sy’n sicrhau y bydd eich holl ofynion ac anghenion yn cael eu cyflawni’n effeithlon ac o fewn eich cyllideb.
Mae Shine wedi archwilio cefndir pob un o’r cyflenwyr a gymeradwyir gennym, gan wirio proffesiynoldeb a safon gwaith, a lle bynnag bo hynny’n bosibl gall Shine drafod gostyngiadau pris sylweddol ar eich rhan.
Yr hyn sy'n ategu at ein profiad o Reoli Priodasau a Digwyddiadau yw'r cymwysterau yr ydym wedi eu derbyn gan y Wedding Planners School a'r UK Alliance of Wedding Planners (UKAWP).




